CRYNODEB

Mae 10K Bae Caerdydd Brecon Carreg yn ddigwyddiad cyflym, gwastad a hwyliog i bobl o bob oed a gallu, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.

Mae’r ras boblogaidd hon yn y gwanwyn, sy’n denu rhai o brif athletwyr y DU, yn cael ei rhedeg yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd.

Mae’r cwrs 10K yn pasio holl dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, gan ddechrau a gorffen ym Mhlas Roald Dahl ar ôl pasio Canolfan Mileniwm Cymru, Mermaid Quay, Adeilad y Pierhead, y Senedd, Porth Teigr a Morglawdd Bae Caerdydd.

Dyma her berffaith i athletwyr elit a chlwb, ac i’r rhai sy’n dymuno cadw’n heini, codi arian i elusen neu roi cynnig ar eu 10K gyntaf! Mae ras hwyl 2K yn rhoi cyfle i redwyr a theuluoedd o bob oed ymuno yn yr hwyl.


AMSER A LLEOLIAD

Dydd Sul 26 Mawrth, 8yb – 2yp, Lloyd George Avenue, Bae Caerdydd. Mae’r 10K yn dechrau am 11yb ac mae’r Ras Bae Caerdydd Iau yn dechrau am 09:45yb.

TEITHIO A PHARCIO

Mae’n hawdd cyrraedd Bae Caerdydd ar droed, beic, car, bws a thrên (drwy Heol y Frenhines Caerdydd). Er mwyn hybu digwyddiad cynaliadwy, rydyn ni’n eich annog i deithio mewn modd llesol fel drwy gerdded neu feicio (mae gan y ddinas lawer o lwybrau beicio hygyrch). Nid oes llawer o ddewisiadau parcio ym Mae Caerdydd oherwydd y bydd ffyrdd ar gau ar gyfer y digwyddiad, felly rydyn ni’n eich annog i rannu ceir, ac rydyn ni’n argymell parcio yng nghanol y ddinas (sy’n daith gerdded fer 1 milltir o hyd i’r Bae neu’n gyfle i gynhesu’r corff cyn y ras). I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i cardiffbay10K.co.uk/travel-parking-roadclosures/

RHIF Y RAS

Yn amgaeedig yn eich pecyn ras mae eich bib ras, gyda’ch rhif ras unigryw. Mae’n hanfodol eich bod chi’n cadw’r bib yn ddiogel oherwydd mae chip amseru (sy’n galluogi ni i ddatgan eich amser gorffen) wedi atodi i rifau ras y 10K – nid ydyw’n bosib i ail brintio. Piniwch eich rhif i flaen eich crys-t ar ddiwrnod y ras, a chofiwch i lenwi eich gwybodaeth feddygol ar gefn y

BAGIAU

Mae cyfleuster i storio bagiau wedi’i lleoli y tu ôl i Adeilad Pierhead, a bydd ar agor am 9:00. Rhwygwch y label ar waelod eich rhif ras

DECHRAU’R RAS 10K

Mae’r ras 10km yn cychwyn ar Lloyd George Avenue ac yn rhedeg tua’r Gogledd, ger Plas Roald Dahl. Bydd y lliw (gwyn, gwyrdd, coch neu melyn) y tu ôl i’r rhif ar eich bib rhedeg yn dangos i chi pa gorlan gychwyn y mae’n rhaid i chi ymgynnull ynddo cyn y ras. Er mwyn osgoi dryswch ar y diwrnod mae’n hanfodol eich bod yn edrych ar fap o’r lleoliad sydd ar yr ochr chwith, i gael manylion ar sut i gael mynediad i’ch corlan cychwyn.

RAS BAE CAERDYDD IAU

Bydd Ras Iau Bae Caerdydd yn dechrau am 09:45 gyda Milltir Herwyr y Dyfodol, gyda Ras Hwyl 2K am 10:00, ac yna Ras y Plant am 10:40. Bydd y rasys yn dechrau ac yn gorffen ym Mhlas Roald Dahl.

Y CWRS

Mae’r ras yn cael ei chynnal ar gwrs gwastad a chyflym o amgylch bae hanesyddol Caerdydd. Mae gorsaf ddŵr wedi’i darparu ger y pwynt 5km, yn ogystal â phwynt amseru hanner fford. Byddwch yn ymwybodol bod rhannau o’r llwybr yn cynnwys bump cyflymder. Byddem yn cynghori rhedwyr i aros i ochr chwith y ffordd

LAWRLWYTHWCH AP RUN 4 WALES

Ar gael ar iOS ac Android, mae App Run 4 Wales yn eich helpu i ddilyn y rhai sy’n cymryd rhan ar ddiwrnod y ras, gweld y canlyniadau byw, a mwy.

CRYSAU T A MEDALAU

Bydd medalau (ar gyfer y ddwy ras) a chrysau T (10K yn unig) yn cael eu dosbarthu ar linell derfyn eich ras.

GWIRFODDOLWYR

Bydd tîm o 120 o wirfoddolwyr #ExtraMilers yn rhoi o’u hamser ar ddiwrnod y ras er mwyn sicrhau eich bod yn cael diwrnod i’w gofio.